Arwyddo drwy’r flwyddyn

SKU: 1076 Categorïau: , ,

£14.99

Gwybodaeth ychwanegol

Weight 216 g
Cyfeiliant

Cyfansoddwr

Cynnwys CD

Genre

,

Iaith

Offeryn

Cwricwlwm Cymraeg

Casgliad yw’r llyfr hwn o 12 o ganeuon gwreiddiol gan Meilyr Wyn, un i bob mis o’r flwyddyn, gyda lluniau symbolau arwyddo i gyd-fynd â phob cân. Mae CD yn dod gyda'r llyfr.

Mae’n addas ar gyfer gwasanaethau boreuol mewn ysgolion cynradd, gan roi cyfle i’r rhai sydd efo anghenion dysgu ychwanegol, neu sy’n methu canu i fod yn rhan o’r gweithgaredd dosbarth. Mae’r themâu’n amrywio, gyda chaneuon am fyd natur, hanes a diwylliant Cymru. Bydd defnydd o’r caneuon a’r arwyddo yn helpu plant bach i ddatblygu iaith, i helpu disgyblion gydag anghenion dysgu ychwanegol i gyfathrebu, ac i wneud y gymdeithas gyfan yn ymwybodol o bwysigrwydd arwyddo gydag unigolion byddar.

Mae Meilyr Wyn yn gwethio fel athro cerdd yn Ysgol Arbennig Hafod Lon ers 10 mlynedd a bu'r plant yn asgwrn cefn i’r holl waith creu ac yn rhan ganolog o recordio y CD sydd yn gynwysedig. Mae traciau o bob un o'r canuon ar y CD gyda lleisiau ac hefyd fel traciau cefndir.

Dyma adnodd a fydd yn werthfawr i athrawon ac arweinyddion plant oed cynradd, boed yn y dosbarth, mewn gwasanaeth neu mewn Ysgol Sul.

Yn ogystal â CD o’r caneuon a’r cyfeiliant, mae fideo arwyddo

ar gael ar gyfer pob cân ar y we.

Teipiwch Arwyddo Drwy’r Flwyddyn yn YouTube i ddod o hyd i’r gân dan sylw.

1 Cân Santes Dwynwen

2 Arwydd o’r Gwanwyn

3 Ein Nawdd Sant ni

4 Pasg Hapus

5 Dydd y Pentecost

6 Mis yr Adar Mân

7 Gorffen yr Ysgol

8 Porth Dinllaen

9 Dechrau’n ôl

10 Ffarwel Haf

11 Tân Gwyllt

12 Carol y Goeden

This is a book in Welsh only. A collection of 12 original songs by Meilyr Wyn, one for each month of the year, with illustrated signing instructions and a CD of the songs with vocals and also backing tracks included.

Gwybodaeth ychwanegol

Weight 216 g
Cyfeiliant

Cyfansoddwr

Cynnwys CD

Genre

,

Iaith

Offeryn

Cwricwlwm Cymraeg