Curiad



Curiad

 

Curiad

 CYSODI CERDDORIAETH

Mae gan CURIAD brofiad helaeth mewn cysodi a chyhoeddi cerddoriaeth o bob math. Rydym yn awr yn medru cynnig y gwasanaeth yma i unigolion a chwmniau eraill. Mae pob aelod o'n tīm cysodi yn meddu ar radd mewn cerddoriaeth ac yn hyddysg yn y technegau angenrheidiol o osod cerddoriaeth o bob math - o emyn-don syml i ddarn ar gyfer cerddorfa lawn!

Mae ein prosiectau diweddar yn cynnwys cysodi llyfr emynau newydd ar gyfer yr Eglwys yng Nghymru - y sol-ffa a'r hen nodiant, gyda chyfanswm o dros 900 tudalen, a chysodi sgor lawn o opera newydd ar gyfer cwmni yn yr Eidal y llynedd.

Cliciwch ar yr enghreifftiau isod i'w gweld yn fwy....

Curiad  Curiad

Rydym yn defnyddio'r offer mwyaf diweddar ar gyfer ein gwaith. Y rhaglen 'Score' yw craidd ein system gysodi ac yn sicr, mae safon y nodiant a gynhyrchir gyda'r meddalwedd yma'n ddiguro. Yna, gallwn ddarparu'r gwaith gorffenedig ar ffurf disg EPS neu gamera barod i safon 1800 DPI. Gallwn hefyd ddarparu'r gwaith ar ffilm pe bai angen. Yn wir, gyda'n profiad helaeth yn y maes argraffu, gallwn ofalu am y prosiect gyfan - o dderbyn eich llawysgrif i gynhyrchu'r nifer angenrheidiol o'r llyfrau gorffenedig, gan gynnwys gofalu am y gwaith dylunio ac argraffu. Yn sicr, mae yna fantais o ddelio gyda phob agwedd o'r gwaith o dan yr un to.

Cofiwch hefyd ein bod yn cynhyrchu llyfrau ar gerddoriaeth yn ogystal a darnau cerddorol. Rydym newydd gwblhau y gwaith o gynhyrchu geiriadur cerddoriaeth newydd a olygodd cysodi'r testun 900 tudalen, cysodi enghreifftiau cerddorol o fewn y testun, dylunio'r clawr lliw llawn ac argraffu'r nifer angenrheidiol o gopļau.

Mae safon ein gwaith yn derbyn canmoliaeth uchel yn gyson a'n nod bob tro yw cydweithio gyda'n cwsmeriaid i sicrhau gwaith o'r ansawdd gorau posibl.

Mae'n prisiau, yn naturiol, yn amrywio yn ol y gwaith sydd angen ei wneud. Byddwn yn barod iawn i roi amcanbris i chi am y gwaith - mawr neu fach. Felly, beth am gysylltu a ni os ydych am fanteisio ar ein gwasanaethau? Rydym bob tro yn barod i gynorthwyo gydag unrhyw ymholiadau.

CYSYLLTWCH a CURIAD

Cartref a Mynegai

Proffil o'r cwmni, Cerddoriaeth gorawl, Cerddoriaeth leisiol, Cerddoriaeth offerynnol & siambr, Cerddoriaeth gerddorfaol, Opera, Bandiau pres, Llyfrau caneuon & adnoddau addysg, Cyfansoddwyr, Sut i archebu, Cysylltwch a ni, Dolenni

 

© Copyright Curiad