
|
CYHOEDDWYR CERDDORIAETH O SAFONProffil o'r Cwmni
Sefydlwyd CURIAD yn 1992 gyda'r bwriad o ffurfio cwmni cyhoeddi cerddoriaeth a
fyddai'n hybu cyfansoddiadau newydd gan gyfansoddwyr o Gymru a thu hwnt. Erbyn
hyn, CURIAD yw cyhoeddwyr cerddorol mwyaf blaengar Cymru yn cyhoeddi
amrediad eang o gerddoriaeth gan amrywiaeth o gyfansoddwyr yn flynyddol. Yn
ogystal â chyhoeddi gweithiau newydd gan gyfansoddwyr cyfoes, rydym hefyd yn
cyhoeddi trefniannau o weithiau cyfansoddwyr cyfnodau'r Baroc, Clasurol a
Rhamantaidd. Mae ein catalog hefyd yn cynnwys llyfrau ar gerddoriaeth, cyfrolau o
ganeuon i blant a deunyddiau addysgiadol.
Mae swyddfeydd CURIAD wedi'u lleoli ym Mhen-y-Groes, ger Caernarfon yng
Ngwynedd, Cymru. Saif Pen-y-Groes yn Nyffryn Nantlle - yr ardal chwarelyddol
honno sydd yn gorwedd yn Eryri. Mae'r "Wyddfa a'i chriw" i'w weld yn glir o'r stryd
fawr ac mae traethau euraidd Pen Llyn nepell o'r pentref. Yr ardal hanesyddol yma
sydd yn gartref i CURIAD a'i gweithgareddau.
Mae sawl rhan yn perthyn i'r broses o gyhoeddi a hybu cerddoriaeth newydd. Wedi
penderfynu ar y gwaith i'w gyhoeddi mae'n tîm o gysodwyr yn mynd ati i gysodi'r
gwaith gan ddefnyddio'r offer a'r rhaglenni mwyaf diweddar. 'Score' yw enw'r
rhaglen a ddefnyddir gennym i gysodi cerddoriaeth a gallwn ddatgan yn gwbl ddifuant
bod safon y nodiant a gynhyrchir yn ddiguro. Wedi cwblhau'r gwaith cysodi, rydym yn
trosglwyddo'r gwaith i'w argraffu i argraffwyr lleol, gan ddefnyddio proses un, dau
neu bedwar lliw, yn ôl yr angen. Mae ein pwyslais ar safon o hyd - o ran cynnwys a
diwyg ein cyhoeddiadau.
Mae'n cyhoeddiadau yn cael eu perfformio ledled y byd gan gerddorion amatur a
phroffesiynol o'r neuadd bentref i'r neuadd gyngerdd mwyaf. Nid oes ffiniau i
gerddoriaeth - y byd yw ein cynulleidfa.
Cartref a Mynegai
Cerddoriaeth gorawl,
Cerddoriaeth leisiol, Cerddoriaeth offerynnol & siambr,
Cerddoriaeth gerddorfaol, Opera,
Bandiau pres, Llyfrau caneuon & adnoddau addysg,
Cyfansoddwyr, Newyddion,
Cysodi cerddoriaeth, Sut i archebu,
Cysylltwch a ni, Dolenni |