Curiad



Curiad

 

Curiad

 CURIAD - SUT I ARCHEBU EIN CYHOEDDIADAU

Mae sawl ffordd i chi archebu cyhoeddiadau o'n catalog:-

Trwy eich siop gerdd lleol

    Mae'n bosibl i chi brynu ein cerddoriaeth o amryw o siopau cerddoriaeth ledled Gwledydd Prydain. Mae nifer o siopau yn gweithredu fel asiantaethau i Curiad ac yn dal copïau o bob un o'n cyhoeddiadau. Gobeithiwn gyhoeddi rhestr gyflawn o'r asiantaethau ar y safle yma cyn bo hir.

Trwy Eich Siop Lyfrau Cymraeg Lleol

    Mae siopau llyfrau Cymraeg yng Nghymru yn cario stoc o'n llyfrau ar gerddoriaeth a'n llyfrau caneuon. Mae croeso i chi archebu'r cyhoeddiadau yma o'r siopau hyn.

Cwsmeriaid Tramor

    Er mwyn cynorthwyo cwsmeriaid tramor i archebu o'n catalog, gobeithiwn gyhoeddi rhestr o'n asiantaethau ledled y byd cyn hir. Yn y cyfamser, mae croeso i chi gysylltu a ni yn uniongyrchol.gallwn dderbyn rhan fwyaf o gardiau debyd/credyd.

Yn Uniongyrchol

    Mewn anhawster Mae croeso i chi gysylltu a ni yn uniongyrchol er mwyn archebu ein cyhoeddiadau, neu os ydych am dderbyn rhagor o wybodaeth am unrhyw gyhoeddiad. Peidiwch a danfon arian gyda'ch archeb. Fe ddanfonwn ni anfoneb atoch gyda'r archeb fel rheol.Gallwn dderbyn y mwyafrif o gardiau debyd/credyd neu gallwn eich anfonebu os oes gennych gyfrif gyda ni.

CYFEIRIAD: CURIAD
Yr Hen Lyfrgell
Ffordd y Sir
Pen-y-Groes
Caernarfon
Gwynedd
LL54 6EY Cymru
FFoN: (+44) (0)1286 882166
E-BOST:curiad@curiad.co.uk

Rydym hefyd yn danfon copïau sampl o'n darnau corawl i gorau cydnabyddedig yn gyson. Cysylltwch a ni am ragor o fanylion.

Danfonwch y ffurflen archebu isod atom os gwelwch yn dda

Cartref a Mynegai

Proffil o'r cwmni, Cerddoriaeth gorawl, Cerddoriaeth leisiol, Cerddoriaeth offerynnol & siambr, Cerddoriaeth gerddorfaol, Opera, Bandiau pres, Llyfrau caneuon & adnoddau addysg, Cyfansoddwyr, Cysodi cerddoriaeth, Cysylltwch a ni, Dolenni

 

© Copyright Curiad