|
![]() NEWYDDIONYn dilyn y derbyniad brwd iawn cafodd gwaith newydd JOHN METCALF, 'Not the Stillness . . .' ar gyfer piano, fiolin, clarinét a sielo yn Musicfest Aberystwyth a Gwyl Bro Morgannwg, fe dderbyniodd John gomisiwn i drefnu'r gwaith ar gyfer Cerddorfa Siambr a Thelyn Drydanol. Mae Cerddorfa Opera Cenedlaethol Cymru a'r delynores adnabyddus Elinor Bennett in teithio Cymru gyda'r gwaith ddechrau Ionawr. Mae'i waith 'Museum of the Air' ar gyfer Soprano a Cherddorfa yn cael ei ddarlledu gan Gerddorfa Genedlaethol y BBC a Della Jones ar BBC Radio 3, Ionawr 20fed am 7.30 p.m. Mae John newydd gwblhau gwaith newydd ar gyfer Cerddorfa Siambr yr Undeb Ewropeaidd. Bydd perfformiad cyntaf 'Dances from Forgotten Places' fel y gelwir y gwaith yn Aberhonddu ar Chwefror 27ain gyda pherfformiadau pellach yn Y Fenni, Mawrth 2il a Llanelli ar Fawrth 4ydd. Perfformir yr opera 'Kafka's Chimp' (libretto gan Mark Morris) yn Sweden ym mis Mawrth gan Gwmni Opera Siambr Piteå. Dyma drefn y perfformiadau: Mawrth 7 & 9, Christinasalen; Mawrth 13,14 Östersund, Storsjöteatern; Mawrth 17,18 Umeå, Norrlandsoperan; Mawrth 22 Härnösand, Stora Teatern. Cysylltwch â Curiad am ragor o fanylion. Mae gweithiau corawl BRIAN HUGHES yn parhau i fod yn boblogaidd gyda chorau yng Nghymru a thu hwnt. Yn ôl yr arfer clywyd gryn dipyn o'i waith yn Eisteddfod Ryngwladol Gerddorol Llangollen eleni. Yn wir, canodd y tri chôr cymysg o Gymru ddarnau gan Brian yn eu cystadlaethau hwy, gyda Chantorion Sirenian o Wrecsam yn ennill cystadleuaeth Côr y Byd. Llongyfarchiadau mawr iddynt! Recordiodd y canwr Cymreig poblogaidd Trebor Edwards dri o weithiau Curiad wrth ryddhau ei CD diweddar y mis hwn. Mae trefniant BRIAN HUGHES o Lisa Lân, cân boblogaidd LAWRIE THOMPSON, Mae yna wlad, a threfniant crefftus EMYR REES o'r gân werin Mae nghariad i'n fenws i gyd i'w clywed ar yr albym. Mae gweithiau GARETH GLYN yn cael derbyniad brwd gan gantorion a chynulleidfaoedd fel ei gilydd. Clywyd sawl darn ganddo yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni ac enillodd Iona Stephen Williams wobr goffa David Ellis, y rhuban glas, wrth ganu un o ganeuon Gareth. Mae CD newydd ar y label Herald gan Gôr Ieuenctid Cymru a lansiwyd ym Mis Rhagyfr yn cynnwys trefniannau gwych MERVYN BURTCH o 'Tair o Alawon Gwerin Cymreig' a gwaith cyffrous BRIAN HUGHES,'Yr Aderyn '. Mae caneuon DILYS ELWYN- EDWARDS wedi cael gryn gyhoeddusrwydd yn ddiweddar, yn bennaf oherwydd CD newydd Charlotte Church. Mae'r soprano adnabyddus Helen Field yn y stiwdio recordio ar hyn o bryd yn recordio CD fydd yn cynnwys rhai o ganeuon Dilys.
Agoriad swyddogol: Erbyn hyn rydym wedi hen gartrefu yn ein swyddfeydd newydd ym Mhen-y-Groes, Caernarfon. Rydym hyd yma, heb drefnu agoriad swyddogol o'r swyddfeydd, ond gobeithiwn gynllunio digwyddiad yn ystod yr wythnosau nesau. Gwyliwch y safle yma am ragor o wybodaeth! Proffil o'r cwmni, Cerddoriaeth gorawl, Cerddoriaeth leisiol, Cerddoriaeth offerynnol & siambr, Cerddoriaeth gerddorfaol, Opera, Bandiau pres, Llyfrau caneuon & adnoddau addysg, Cyfansoddwyr, Cysodi cerddoriaeth, Sut i archebu, Cysylltwch a ni, Dolenni |