[neidio i'r prif gynnwys]

Croeso i wefan newydd Curiad

Sefydlwyd CURIAD yn 1992 gyda'r bwriad o ffurfio cwmni cyhoeddi cerddoriaeth a fyddai'n hybu cyfansoddiadau newydd gan gyfansoddwyr o Gymru a thu hwnt. Erbyn hyn, CURIAD yw cyhoeddwyr cerddorol mwyaf blaengar Cymru yn cyhoeddi amrediad eang o gerddoriaeth gan amrywiaeth o gyfansoddwyr yn flynyddol. Yn ogystal a chyhoeddi gweithiau newydd gan gyfansoddwyr cyfoes, rydym hefyd yn cyhoeddi trefniannau o weithiau cyfansoddwyr cyfnodau'r Baroc, Clasurol a Rhamantaidd. Mae ein catalog hefyd yn cynnwys llyfrau ar gerddoriaeth, cyfrolau o ganeuon i blant a deunyddiau addysgiadol.

Mae swyddfeydd CURIAD wedi'u lleoli yn Nhalysarn, ger Caernarfon yng Ngwynedd, Cymru. Saif Pen-y-Groes yn Nyffryn Nantlle - yr ardal chwarelyddol honno sydd yn gorwedd yn Eryri. Mae'r "Wyddfa a'i chriw" i'w weld yn glir o'r stryd fawr ac mae traethau euraidd Pen Llyn nepell o'r pentref. Yr ardal hanesyddol yma sydd yn gartref i CURIAD a'i gweithgareddau.

Cyhoeddi Cerddoriaeth

Mae sawl rhan yn perthyn i'r broses o gyhoeddi a hybu cerddoriaeth newydd. Wedi penderfynu ar y gwaith i'w gyhoeddi mae'n tîm o gysodwyr yn mynd ati i gysodi'r gwaith gan ddefnyddio'r offer a'r rhaglenni mwyaf diweddar. 'SIBELIUS' a 'SCORE' yw'r enw'r rhaglennu a ddefnyddir gennym i gysodi cerddoriaeth a gallwn ddatgan yn gwbl ddifuant bod safon y nodiant a gynhyrchir yn ddiguro. Wedi cwblhau'r gwaith cysodi, rydym yn trosglwyddo'r gwaith i'w argraffu i argraffwyr lleol, gan ddefnyddio proses un, dau neu bedwar lliw, yn ol yr angen. Mae ein pwyslais ar safon o hyd - o ran cynnwys a diwyg ein cyhoeddiadau.

Mae'n cyhoeddiadau yn cael eu perfformio ledled y byd gan gerddorion amatur a phroffesiynol o'r neuadd bentref i'r neuadd gyngerdd mwyaf. Nid oes ffiniau i gerddoriaeth - y byd yw ein cynulleidfa.

Prynu ac archebu ar-lein

Gallwch brynu ein llyfrau cerddoriaeth ac adnoddau dysgu yn uniongyrchol drwy'r wefan hon.

Mae ein cerddoriaeth Gorawl, Unawdau ac Offerynnol ar gael drwy ein dosbarthwr - AMS www.activemusicservices.co.uk