Curiad
Curiad

 

Curiad

  CYFANSODDWYR

JOHN METCALF

Ganwyd John Metcalf yn Abertawe ym 1946. Yn gyd-ddinesydd o'r Deyrnas Unedig a Chanada, fe'i hystyrir ymysg y mwyaf blaengar o gyfansoddwyr sydd yn gweithio yng Nghymru heddiw. Gan ddechrau yn y chwedegau hwyr, mae ei yrfa lwyddiannus fel cyfansoddwr eisoes yn cynnwys gweithiau amrywiol.

Mae ganddo weithiau mawr gan gynnwys pum opera. Gwelir aeddfedrwydd cynyddol yn ei weithiau diweddar sy'n cynnwys y Marimba Concerto bywiog (1991) a ysgrifennwyd ar gyfer Evelyn Glennie a Llyfr Lloffion y Delyn (1992), dyddiadur cerddorol o saith darn byr. Cyfansoddwyd Inner Landscapes ar gyfer y piano ym 1994 ac fe'i dilynwyd gan ragor o weithiau offerynnol pwysig; Rest in Reason, Move in Passion ar gyfer ffidil, sielo a phiano (1994), Paradise Haunts ar gyfer ffidil a phiano (1995) a Mountains Blue like Sea ar gyfer sielo a phiano (1996). Mae gweithiau eraill ar gyfer y piano yn cynnwys Never Odd or Even a Sky High Cloud Light, dau ddarn a gyfansoddwyd ym 1995 ar gyfer y grwp chwe-phiano 'Piano Circus'.

Cafwyd perfformiad cyntaf o Museum of the Air (1998) yn ddiweddar yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd, gan Gerddorfa Genedlaethol y BBC a Della Jones. Mae hwn yn waith ar gyfer cerddorfa fawr ac unawdydd soprano i farddoniaeth gan Gwyneth Lewis.

Perfformir a darlledir cyfansoddiadau John Metcalf mewn amryw o wledydd y byd. Mae cwmni recordio Lorelt wedi gwneud sawl recordiad o'i gerddoriaeth. John yw Cyfarwyddwr Artistig Gwyl Gerddorol Abertawe yn ogystal â Gwyl Bro Morgannwg sydd yn gweithredu polisi o gyflwyno gweithiau gan gyfansoddwyr byw.

GARETH GLYN

Ganed Gareth Glyn ym Machynlleth ym 1951. Cafodd ei annog i gyfansoddi o oed cynnar iawn gan ei athro yn Ysgol Maes Garmon, Yr Wyddgrug, Rhys Jones. Mae ei gannoedd o gyfansoddiadau yn amrywio o symffoni, consierto, agorawdau a darnau cerddorfaol eraill i ganeuon syml i blant, cerddoriaeth gefndir ac arwydd-donau i deledu, dramâu cerdd a gosodiadau corawl fel Clychau'r Gog, sydd bellach yn repertoire nifer o gorau meibion Cymru.

Mae Gareth yn argyhoeddedig bod yn rhaid i gerddoriaeth apelio at y gynulleidfa a bod yn ymarferol i'r datgeinydd, ac mae'n cadw at yr egwyddor hon ym mhob un o'i weithiau, fel y gwnaeth tri o'r cyfansoddwyr y mae'n eu hedmygu fwyaf, sef Carl Orff, Aaron Copland a Benjamin Britten. Mae'n ystyried ei fod wedi cynnwys ei Gymreictod ym mhob un o'i weithiau, o'r symffoni enfawr i'r gân fyrraf. Ym 1991 cafodd ei urddo â gwisg wen Gorsedd yr Eisteddfod Genedlaethol am ei gyfraniad i gerddoriaeth Cymru.

BRIAN HUGHES

Ganed Brian Hughes yn Rhosllannerchrugog, Wrecsam yn 1938. Mae ei weithiau corawl a lleisiol yn ddramatig a chyfoes ond yn gwbl hygyrch i'r gwrandawr. Mae'n derbyn comisiynau gan gorau a lliaws o grwpiau cerddorol yn gyson ledled Cymru a Lloegr.

Mae ei brofiad o hyfforddiant corawl fel cyn-arweinydd Cantorion Alun, Yr Wyddgrug a chorws-feistr Coleg Cerdd Brenhinol y Gogledd, Manceinion, yn golygu ei fod yn alluog iawn i ysgrifennu darnau corawl. Serch hynny, mae hefyd wedi cyfansoddi darnau ar gyfer cerddorfa lawn - Strata a Janus - yn ogystal â gweithiau siambr fel Quando ar gyfer clarinet a Darnau i Miriam ar gyfer ffliwt.

Mae Brian Hughes yn barod iawn i ddefnyddio amrywiaeth o effeithiau lleisiol yn ei gyfansoddiadau ar gyfer corau, os ydynt yn ychwannegu at y darlun cyfan y mae'n ceisio'i greu.

DILYS ELWYN-EDWARDS

Ganed Dilys Elwyn-Edwards yn Nolgellau yn 1918. Mae'n cael ei chydnabod fel cyfansoddwraig lleisiol yn bennaf, ac mae'i chaneuon a'i cherddoriaeth gorawl yn boblogaidd iawn yng Nghymru a thu hwnt. Mae artistiaid fel Bryn Terfel, Gwyn Hughes-Jones, Rebecca Evans a Chôr Coleg Sant Ioan, Caergrawnt i gyd wedi recordio a pherfformio ei chyfansoddiadau.

Bu'n astudio cyfansoddi gyda Herbert Howells yn Llundain ac mae ei harddull ysgafn yn apelio at amryw o gorau a chantorion.

LYN DAVIES

Ganed yn Llandybie, Sir Gaerfyrddin yn 1955. Yn gyfansoddwr hynod gynhyrchiol, derbyniodd Lyn Davies Ph. D. o Brifysgol Cymru ym 1983. Bu hefyd yn astudio cyfansoddi yng Ngwlad Pwyl yn yr Academi Cerdd yn Krakow gyda Penderecki, Schaffer, Buijarski a Stachowski. Wedi gyrfa lwyddiannus fel canwr penderfynodd ganolbwyntio ar waith academaidd a chyfansoddi yn 1990. Mae ei arddull yn cynnwys rhai darnau cyweiriol ond llawer o'i weithiau siambr a phiano yn fwy uchelgeisiol wrth ddefnyddio anghyseinedd fel sail i'r cyfansoddiad.

MERVYN BURTCH

Mae Mervyn Burtch yn byw yn Ystrad Mynach, Sir Forgannwg lle y ganed yn 1929. Mae'n ddarlithydd rhan-amser yng Ngholeg Cerdd a Drama Cymru, Caerdydd. Mae'n gyfansoddwr sydd yn gyfforddus mewn sawl cyfrwng, boed lleisiol neu offerynnol. Mae wedi derbyn llu o gomisiynau dros y blynyddoedd a chlywir ei weithiau ar lwyfan neu ar record yn gyson. Mae ei operâu — yn enwedig ei operâu plant — ymysg ei weithiau mwyaf poblogaidd. Recordiodd Côr Polyffonig Caerdydd CD, I Am David, sydd yn cynnwys nifer o'i weithiau corawl yn ddiweddar.

Cartref a Mynegai

Proffil o'r cwmni, Cerddoriaeth gorawl, Cerddoriaeth leisiol, Cerddoriaeth offerynnol & siambr, Cerddoriaeth gerddorfaol, Opera, Bandiau pres, Llyfrau caneuon & adnoddau addysg, Newyddion, Cysodi cerddoriaeth, Sut i archebu, Cysylltwch a ni, Dolenni

 

© Copyright Curiad